User:Jason.nlw/Adolygiad 12 mis

Rhagarweiniad edit

Golygydd Wicipedia Preswyl edit

 
Dr Dafydd Tudur yn derbyn y gwobr GLAM of the year, 2013

Mae Golygydd Wicipedia Preswyl (Wikimedian neu Wikipedian yn Saesneg yn olygydd neu'n gyfrannwr i Wicipedia sy'n rhoi o'i amser i weithio mewn sefydliad penodol. Yn y bôn, maent yn galluogi'r sefydliad a'i aelodau i feithrin perthynas adeiladol â'r gwyddoniadur a'r gymuned o'i amgylch, ar ôl i'r cyfnod preswyl ddod i ben. Y nod yw hybu dealltwriaeth staff y Llyfrgell o brosiectau Wicimedia, a chodi ymwybyddiaeth mewn orielau, llyfrgelloedd, archifdai ac amgueddfeydd ledled Cymru drwy drefnu gweithdai a digwyddiadau. Bydd y golygyddion preswyl hefyd yn gweithio gyda'r staff i ddigido adnoddau, eu casglu ynghyd a rhoi trefn arnynt. Bydd modd eu rhannu wedyn â chymuned Wicipedia.

Cefndir i’r prosiect edit

Dechreuodd y Llyfrgell Genedlaethol gydweithio â Wicimedia yn 2012/13 pan rannwyd nifer o ffotograffau yng nghasgliadau’r Llyfrgell o dan drwydded Comins Creadigol fel cyfraniad at y prosiect MonmouthpediA. Yn 2014 cafodd y Llyfrgell gais oddi wrth Robin Owain, Rheolwr Wicimedia Cymru, a gynigiodd mynd ati ar y cyd i gyflogi Golygydd Wicipedia Preswyl. Ar ôl trafod y mater a chynnal cyfweliadau mewnol, penodwyd aelod o staff y Llyfrgell yn Olygydd Wicipedia Preswyl ar gytundeb 12 mis. Dechreuodd yn y swydd ar Ionawr 19 2015 ac roedd y cytundeb yn para tan Ionawr 30 2016.

Nodau allweddol y Golygydd Preswyl edit

 
Jason Evans yn helpu gwirfoddolwr yn y digwyddiad Wiki Data yn y Llyfrgell Genedlaethol
  • Clustnodi archifau digidol a’u rhyddhau i Gomins Wicimedia o dan drwydded agored briodol (G.1.1-2)
  • Cynnal o leiaf 6 o ddigwyddiadau cyhoeddus neu weithdai (G.1.2)
  • Gweithio gyda’r Llyfrgell a’i phartneriaid i hyrwyddo a datblygu Mynediad/Gwybodaeth Agored (G.1.3 & G.3.2)
  • Sicrhau newidiadau yn niwylliant y Llyfrgell, ei chanllawiau a’i pholisïau er mwyn hyrwyddo mynediad a gwybodaeth agored o ran casgliadau’r Llyfrgell (G.3.3)[1]

Crynodeb o’r gweithgarwch a’r canlyniadau edit

Isod ceir gorolwg o’r gweithgareddau a’r canlyniadau allweddol na fyddai wedi digwydd heb Olygydd Wicipedia Preswyl.

Digwyddiadau cyhoeddus edit

 
Roedd y digwyddiad yma ar hanes Siartiaeth yn prosiect ar y cyd efo Cynefin, Archifdy Gwent a'r Llyfrgell Genedlaethol

Rhagorwyd ar y targed o gynnal chwe digwyddiad cyhoeddus yn ystod y flwyddyn, drwy gynnal naw golyg-a-thon. Cynhaliwyd sawl digwyddiad ar y cyd â Phrifysgol Abertawe a phartneriaid eraill fel Casgliad y Werin Cymru ac Archifdy Gwent.

Roedd hi’n bwysig o’r cychwyn cyntaf i sicrhau canlyniadau oedd yn dangos gwerth y prosiect i’r Llyfrgell. Y gobaith oedd cyflawni hynny drwy gadw golwg fanwl ar y defnydd a wneid o ddelweddau’r Llyfrgell a rannwyd ar Gomins Wicipedia o dan drwydded agored, a’u heffaith. Penderfynwyd hefyd y dylid cynnal digwyddiadau cyhoeddus fel golyg-a-thonau fel rhan o ddigwyddiadau a phrosiectau ehangach fel y bo’r modd, er mwyn creu’r argraff fwyaf posib a galluogi’r Llyfrgell i estyn allan i’r cyhoedd wrth gynnal arddangosfeydd, lansio prosiectau a chyflwyno adnoddau newydd ar-lein.

  • 9 digwyddiad cyhoeddus
  • 100 o bobl yn bresennol
  • 63 cyfrif Wicipedia newydd
  • 72 erthygl newydd
  • 233 o erthyglau wedi’u gwella [2]
  • 81541 golygiad i tudalenau Wikipedia

Rhannu deunydd digidol edit

 
'Boy destroying piano' Y llun cyntaf gan y Ffotograffiwr enwog o Magnum Philip Jones Griffiths i rhyddhau i'r parth cyhoeddus
 
Mae'r LLGC wedi lywtho copiau safoin uchel o pob delwedd o Micrographia gan Hooke, and y tro cyntaf
 
Golygathon a Rhannu Patagonia gan cydweithio efo Cagliad y Werin Cymru. Roddodd 400 delwedd gan y cyhoedd ar troedded agored

Yn y deuddeg mis cychwynnol mae’r Llyfrgell wedi llwytho 7347 o ddelweddau digidol i fyny i Gomins Wicimedia. Ceir amrywiaeth o gasgliadau sy’n cynnwys 3,500 o ddelweddau o dirlun Cymru, ffotograffau o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, llawysgrifau o’r Canol Oesoedd, papurau newydd a deunydd printiedig fel delweddau o gyfrol enwog Robert Hooke, Micrographia. Clustnodwyd 140,000 o ddelweddau i’w llwytho i fyny i’r Comins yn y dyfodol.

  • 7347 o ddelweddau wedi’u llwytho i fyny [3]
  • 947 o ddelweddau gwahanol wedi’u defnyddio mewn Wicis [4]
  • 32,936,910 argraff o erthyglau’n cynnwys delweddau’r Llyfrgell[5]

Gweithio gyda gwirfoddolwyr edit

Un o lwyddiannau annisgwyl y prosiect oedd y gwaith a wnaethpwyd â thîm gwirfoddolwyr y Llyfrgell. Mae’r Llyfrgell yn cyflogi cydlynydd i reoli tîm o wirfoddolwyr lleol sy’n ymwneud ag amrywiaeth o wahanol brosiectau yn y Llyfrgell. Yn arwydd o lwyddiant y cynllun, mae rhestr o bobl yn aros i ymuno â’r tîm. Trefnodd y Golygydd Wicipedia Preswyl amrywiaeth o sesiynau hyfforddiant a phrosiectau i’r tîm gwirfoddolwyr yn seiliedig ar Wicipedia, a bu sawl gwirfoddolwr yn bresennol mewn o leiaf un golyg-a-thon cyhoeddus.

  • 9 gwirfoddolwr wedi cyfrannu at brosiect i greu bonion erthyglau Wicipedia yn Gymraeg a Saesneg ar drigain o hen bapurau newydd Cymreig [6]
  • 13 gwirfoddolwr wedi cael hyfforddiant Wicidata, ac yna wedi defnyddio’r offeryn cyfun-cydwedd i ychwanegu cofnodion y Bywgraffiadur Cymreig at Wicidata.
  • Lansiwyd prosiect newydd sbon gyda’r nod o greu bonion erthyglau Wicipedia ar gyfer cofnodion y Bywgraffiadur Cymreig.
  • Cynhaliwyd nifer o sesiynau galw heibio bob wythnos er mwyn annog gwirfoddolwyr i ddal ati i olygu rhwng digwyddiadau/prosiectau.


Eiriolaeth edit

Er mwyn hyrwyddo manteision mynediad agored a gweithio gyda phrosiectau Wicipedia, sefydlwyd cyfrifon Twitter Cymraeg a Saesneg fel y gellid rhannu newyddion am y prosiect. Rhoddwyd cyflwyniad rhagarweiniol ar sawl achlysur i aelodau o staff y Llyfrgell a’i phartneriaid er mwyn codi ymwybyddiaeth o waith golygyddion Wicipedia. Cyhoeddwyd 13 erthygl blog yn sôn am wahanol agweddau ar y prosiect. Cafwyd cryn ddiddordeb o’r cyfryngau yng Nghymru hefyd, a chafodd y golygydd preswyl ei gyfweld sawl gwaith ar deledu a radio, ac ar gyfer cylchgronau a gwefannau newyddion.

  • 13 erthygl ar y blog
  • 10 cyfweliad ar y radio
  • 14 erthygl newyddion
  • 2 ymddangosiad teledu
  • 859,500 argraffiad ar Twitter [7][8]


Sefydlu mynediad agored gyda’r Llyfrgell Genedlaethol a’i phartneriaid edit

Hyd yn oed cyn dechrau’r cyfnod preswyl roedd y Llyfrgell Genedlaethol wedi mabwysiadu polisi mynediad agored ar gyfer yr holl ddeunydd digidol nad oedd mwyach o dan hawlfraint. Mae’r polisi hwn hefyd yn esbonio dyhead y Llyfrgell i rannu deunydd yn agored ar wefannau allanol. Wrth gyflogi Golygydd Wicipedia Preswyl gwelwyd fod cyfle i ddatblygu’r strategaeth a nodwyd yn y polisi. Serch hynny, nid yw ffrydiau gwaith presennol y Llyfrgell yn hwyluso systemau ar gyfer rhyddhau deunydd sydd newydd ei ddigido i’r parth cyhoeddus. Ar hyd y deuddeg mis diwethaf bu gwaith yn mynd rhagddo i geisio sefydlu systemau o’r fath, ond araf fu’r cynnydd oherwydd ailstrwythuro staff ac adrannau’r Llyfrgell yn sylweddol yn ystod y cyfnod preswyl.

Partner mwyaf y Llyfrgell o ran creu deunydd digidol yw Casgliad y Werin Cymru – cyfrwng cymunedol ar gyfer rhannu a rhoi trefn ar ddelweddau digidol sydd a wnelont â Chymru. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn cyfrannu at yr archif, fel y gwna orielau, llyfrgelloedd, archifdai ac amgueddfeydd eraill yng Nghymru, yn ogystal â’r cyhoedd. Ar hyn o bryd nid yw’r wefan ond yn cynnig trwyddedau nad ydynt yn rhai masnachol i’r defnyddwyr, ond gwnaethpwyd cynnydd gwerth chweil wrth geisio cael Casgliad y Werin i fabwysiadu trwyddedau Creative Commons, gan roi’r dewis i ddefnyddwyr drwyddedu delweddau at ddibenion masnachol neu anfasnachol. Llwyddwyd i sicrhau’r newid hwn yn niwylliant y wefan drwy hyrwyddo manteision mynediad agored, cydweithio wrth gynnal digwyddiadau, a mynd ati’n rhagweithiol i rannu deunydd y Llyfrgell Genedlaethol â Chomins Wicimedia a Chasgliad y Werin.

Mae sawl aelod unigol o staff y Llyfrgell wedi bod yn cymryd rhan mewn hyfforddiant Wicipedia, golyg-a-thonau a sesiynau ‘Cyflwyniad i Wicipedia’. Rwyf hefyd wedi bod yn gweithio’n agos a churaduron wrth ddewis a dethol deunydd i’w lwytho i fyny i’r Comins.

  • Bu 44 aelod o staff mewn sesiynau ‘Cyflwyniad i Wicipedia’
  • Bu 9 aelod o staff mewn gweithdy Golygu
  • Cynhaliodd y Tîm Mynediad Digidol ddigwyddiad Llun-a-thon [9]
  • Datblygwyd partneriaeth â Chasgliad y Werin Cymru
  • Wrthi'n datblygu'r achos busnes ar gyfer symudiad pellach at fynediad agored
  • Ymrwymiad i sicrhau rhannu a mynediad agored fel rhan o'r ffrwd waith digido

Pethau i’w hystyried edit

Pethau da edit

 
Criw Teledu yn ffilmio yn ein Golygathon arbennig ar gyfer penblwydd Wikipedia

Mae llawer o bethau da wedi digwydd yn ystod deuddeng mis cyntaf y cyfnod preswyl yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae’r Llyfrgell wedi cefnogi ethos mynediad agored Wicipedia o’r cychwyn cyntaf, ac wedi dangos ei ymrwymiad i’r prosiect drwy gefnogi’r golygydd preswyl lle bynnag yr oedd modd. Rhennir gwybodaeth am gynnydd y prosiect yn rheolaidd â staff uwch, ac mae effaith y deunydd a rannwyd ar y Comins wedi creu argraff arnynt, nid yn unig o ran faint o bobl sydd wedi’u gweld ar y we, ond hefyd o ran diddordeb y cyhoedd a’r cyfryngau yn y deunydd, sydd wedi digwydd oherwydd y sylw mae modd ei ddenu wrth rannu deunydd drwy fynediad agored.

Bu modd defnyddio’r dull golyg-a-thon mewn amrywiaeth helaeth o ffyrdd wrth estyn allan i’r cyhoedd. Y rheswm am hyn yw bod modd dewis unrhyw bwnc o dan haul, a thargedu bron unrhyw garfan o’r boblogaeth. Mae’r digwyddiadau’n fuddiol wrth ymdrin â materion pwysig fel llythrennedd cyfrifiadurol ac ymgysylltu â’r gymuned, ac maent hefyd yn ffordd o hyrwyddo’r adnoddau a’r arbenigrwydd sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol. Cynhaliwyd llawer o’r digwyddiadau golyg-a-thon ar gais sefydliadau neu fudiadau a fu’n cymryd rhan mewn digwyddiadau blaenorol, neu a glywodd am y digwyddiad drwy gyfryngau cymdeithasol.

Bu’r cyfryngau cymdeithasol, a Twitter yn enwedig, o fudd mawr wrth hyrwyddo mynediad agored a datblygiadau yng nghyfnod y golygydd preswyl. Roedd y rhan helaeth o’r sylw a gafodd y prosiect yn y cyfryngau wedi dod o ganlyniad uniongyrchol i’r gweithgarwch ar Twitter.

Heriau ac argymhellion edit

Diffyg adnoddau mewnol edit

Oherwydd ailstrwythuro sylweddol a diffyg cymorth systemau/TGCh, bu’n anodd ar brydiau i gael gafael ar y data angenrheidiol er mwyn llwytho casgliadau i fyny i’r Comins, hyd yn oed pan gafwyd caniatâd i wneud hynny. Credir mai diffyg adnoddau mewn cyfnod ariannol anodd sydd wrth wraidd hyn, yn hytrach na diffyg cefnogaeth i gyfnod preswyl Wicimedia.

Lleoli ac ymgysylltu efo gwirfoddolwyr allweddol edit

Er gwaethaf y ffaith bod nifer dda o bobl wedi dod i’r rhan helaeth o’r digwyddiadau, bu’n anodd cael gafael ar olygyddion Wicipedia profiadol a’u perswadio i gymryd rhan mewn digwyddiadau’r oedd y Golygydd Wicipedia Preswyl wedi’u trefnu. Yn hyn o beth ceir gobaith o gynnal cynhadledd flynyddol Wici Cymru yn Aberystwyth eleni fel y gellir cael mwy o olygyddion profiadol i gymryd rhan ym mhrosiectau’r Llyfrgell Genedlaethol a Wicipedia.


Dadansoddiadau edit

Pe byddai Wicimedia’n darparu dadansoddiadau mwy strwythuredig byddai’n llawer haws hyrwyddo’r manteision o gydweithio â Wicipedia. Er enghraifft, nid oedd unrhyw ystadegau ar gael ar gyfer y codau QRPedia a ddefnyddiwyd mewn arddangosfa fawr yn y Llyfrgell, ac nid oes unrhyw ystadegau ar gael ar gyfer ‘ymgysylltu’ â delweddau ar dudalennau Wicipedia, dim ond nifer y tudalennau yr edrychwyd arnynt. Byddai cael un pecyn o raglenni y gellid eu cadw’n ganolog (yn debyg i Google Analytics) o fudd enfawr i bob oriel, llyfrgell, archifdy ac amgueddfa sy’n gweithio gyda Wicimedia, neu’n ystyried gwneud hynny.

Pethau allweddol i'w dysgu edit

  • Mae rhoi cyhoeddusrwydd i weithgareddau a llunio adroddiadau yn eu cylch mor bwysig â'r gweithgareddau eu hunain.
  • Gall unrhyw un fod yn wirfoddolwr, does dim ond angen ennyn diddordeb pobl
  • Mae dadansoddiadau trylwyr yn allweddol os am sicrhau bod y sefydliad yn cefnogi mynediad agored.

Edrych ymlaen edit

Mae’r naill bartner a’r llall wedi penderfynu ymestyn cyfnod y Golygydd Wicipedia Preswyl yn y Llyfrgell Genedlaethol, a hynny tan 30 Awst 2016. Bydd y golygydd preswyl yn dal i gynnal digwyddiadau cyhoeddus ac yn llwytho deunydd digidol i fyny i Gomins Wicimedia. Ar ben y targedau a bennwyd ar gyfer y 12 mis cychwynnol, bydd y golygydd preswyl yn meithrin cyswllt ag ysgolion lleol ac yn datblygu dull ar gyfer cyflwyno Wicipedia yn y byd addysg. Bydd y golygydd preswyl hefyd yn dal i ymchwilio i ffyrdd y gallai’r Llyfrgell gydweithio â Wicimedia ar brosiectau eraill heblaw am Wicipedia, megis Wiki Sources a Wicidata.

Cyfeiriadau edit

  1. ^ "Strategy monitoring plan". Wikimedia UK. Retrieved 19 January 2016.
  2. ^ "Wikipedian in Residence at the National Library of Wales - Project Page". wikimedia.org.uk. Retrieved 19 January 2016.
  3. ^ "NLW content on Commons". Wikimedia Commons. Retrieved 19 January 2016.
  4. ^ "NLW image use statistics for Category:Images uploaded as part of NLW - WMUK collaboration". tools.wmflabs.org. Retrieved 19 January 2016.
  5. ^ "baGLAMa 2 image view statistics for NLW". tools.wmflabs.org. Retrieved 19 January 2016.
  6. ^ "Welsh newspapers project page". wikimedia.org.uk. Retrieved 19 January 2016.
  7. ^ "English language twitter account".
  8. ^ "Welsh language Twitter account".
  9. ^ "Welsh Landscapes Pic-a-thon for Digital Access team". wikimedia.org.uk. Retrieved 19 January 2016.